'Y gwaith dur yw ein hunaniaeth - ni yw'r dref dur'
Ar ddydd Llun, fe fydd y dull traddodiadol o wneud dur ym Mhort Talbot yn dod i ben ar ôl mwy na chan mlynedd. Mae Tata Steel wedi addo adeiladu ffwrnes arch drydanol gwerth £1.25bn ond bydd bron i 2,000 o swyddi yn diflannu ac mae pryderon dros ddyfodol y dref yn parhau.